Rhifyn 36

“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw mewn cyd-destun hanesyddol

Amcan yr erthygl hon yw dadansoddi agwedd ar dafodiaith Gymraeg y Wladfa a esgeuluswyd, sef ei phatrymau geirfaol cyfoes. Ar sail data a gafwyd o 134 holiadur, dangosir bod yr amrywio geirfaol sydd ar waith yn yr amrywiad hwn ar y Gymraeg wedi ei gyflyru i raddau helaeth gan yr amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol a welir heddiw ymhlith siaradwyr Cymraeg Talaith Chubut. Mae’r canlyniadau, felly, nid yn unig yn dangos sut y mae cydgyffyrddiad tafodieithol hanesyddol wedi chwarae rôl allweddol yn esblygiad tafodiaith draddodiadol y Wladfa, ond hefyd yn archwilio am y tro cyntaf i ba raddau y mae rhaglen addysgol benodol, sef ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg’ y Cyngor Prydeinig, yn dylanwadu ar ddefnydd o nodweddion geirfaol ymysg dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth. Nod arall yw ystyried rhai o oblygiadau ehangach y canlyniadau, gan gynnwys perthnasedd ideolegau ieithyddol i batrymau geirfaol hanesyddol a chyfredol Cymraeg y
Wladfa.

Allweddeiriau

Tafodiaith, y Gymraeg, amrywio geirfaol, y Wladfa, cydgyffyrddiad tafodieithol, ideolegau ieithyddol, cenedlaetholdeb Cymreig, dad-drefedigaethu ieithoedd safonol, ieithoedd treftadol, pedagogeg iaith

Cyfeirnod

Rees, I. W. (2024), '“Un o fethiannau godidocaf” puryddiaeth ieithyddol? Dadansoddiad o batrymau geirfaol Cymraeg y Wladfa heddiw mewn cyd-destun hanesyddol', Gwerddon, 36, 87–117. https://doi.org/10.61257/HZXS4457

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-5859-3839
Nôl i erthyglau