Cyfle i fod yn Olygydd ar Gwerddon

Mae Gwerddon yn chwilio am Olygydd i olynu yr Athro Anwen Jones.  

Y Golygydd sy’n bennaf gyfrifol am wneud penderfyniadau golygyddol yn seiliedig ar bolisïau’r Bwrdd Golygyddol, ac am arwain y tîm golygyddol (sy’n cynnwys yr Is-olygydd a’r Cynorthwywyr Golygyddol).

Bydd dyletswyddau penodol yn cynnwys:

  • Goruchwylio'r broses o gywain erthyglau i'r cyfnodolyn; 

  • Llywio cynnwys rhifynnau arferol ac arbennig drwy dderbyn erthyglau a rhoi cychwyn ar y broses arfarnu;

  • Golygu pob erthygl a dderbynnir wedi iddynt gael eu harfarnu gan sicrhau i awduron yr erthyglau ddilyn y confensiynau golygyddol;

  • Cyfathrebu gyda'r awduron wedi derbyn yr arfarniadau;

  • Tasgau golygyddol cyffredinol eraill yn ôl yr angen. 

Bydd tymor y swydd yn bum mlynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2027. Rôl ddi-dâl yw hon ond telir costau rhesymol (e.e. teithio). 

Gellir gwneud cais drwy anfon llythyr a CV yn electronig at gwybodaeth@gwerddon.cymru erbyn 17:00, dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2027. Cynhelir cyfweliadau ar-lein ym mis Ionawr 2027.

Gweler rhagor o wybodaeth yn y ddogfen isod, a dylid anfon unrhyw ymholiadau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Manylion y rôl