Rhifyn 36

Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa

Nodweddir y drafodaeth gyhoeddus ar-lein ddiweddar ynghylch y Wladfa gan duedd i gollfarnu’r gwladfawyr Cymreig ar sail foesol. Â’r erthygl hon i’r afael â’r tueddiad hwn gan bwyso a mesur sut, ac i ba raddau, y mae modd inni osod y Wladfa a’i phobl yn y fantol foesol. Rhoddir sylw manwl i ymdriniaethau Geraldine Lublin a Lucy Taylor â’r hanes, fel enghreifftiau o ddadansoddi ystyrlon, amlhaenog sy’n llwyddo i gyfleu cymhlethdod a drysni’r sefyllfa. Wedi cynnig y braslun hwn, cymhwysir fframwaith moesegol Iris Marion Young i’r hanes, er mwyn amlygu ystyriaethau moesegol allweddol, sy’n dilyn ymgais Catherine Lu i gymhwyso’r un model ‘cysylltiadau cymdeithasol’ i hanes trefedigaethol Siapan. Cynigir rhai casgliadau cychwynnol ynghylch yr hyn a amlygir.

Allweddeiriau

Y Wladfa, moeseg, trefedigaethu, Iris Marion Young, cyfryngau cymdeithasol

Cyfeirnod

Williams, H. (2023), 'Heb ei fai, heb ei eni: ‘Disgwrs’ a Moeseg y Wladfa', Gwerddon, 36, 49-64. https://doi.org/10.61257/KLNP4889 

Nôl i erthyglau