Rhifyn 35

Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd

Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau, ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol.

Allweddeiriau

amrywio ieithyddol, Cymraeg, Caerdydd, cyffyrddiad tafodieithol, safoni, ffurfio tafodiaith newydd, adfywio ieithyddol

Cyfeirnod

Gruffydd, I. (2023), 'Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd' Gwerddon, 35, 47–75. https://doi.org/10.61257/vabg1015 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
ORCID ID: 0009-0002-6242-9411
Nôl i erthyglau