Rhifyn 22

Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg

Ers dyfodiad y papurau bro yn y 1970au, mae cannoedd o erthyglau ar gerddoriaeth roc wedi ymddangos yn eu tudalennau, yn rhoi cyhoeddusrwydd i fandiau roc lleol, gigiau, recordiau newydd, ac ati. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y rhain unrhyw sylw academaidd. Mae’r erthygl bresennol yn ymdrin â natur a dylanwad y casgliad di-sôn-amdano hwn o ffynonellau, yn awgrymu bod y deunydd hwn yn taflu golau ar weithgareddau yn y byd cerddorol ar lefel rhanbarthol a lleol, a hefyd bod cywair yr ysgrifau yn datgelu rhywbeth am agenda’r cyfranwyr. Dangosir bod pwyslais ar gyfiawnhau nid bodolaeth ond gwerth diwylliannol cerddoriaeth roc Gymraeg ar ran y genhedlaeth hŷn yn dylanwadu ar ymatebion ysgrifenwyr ifainc a chefnogwyr y byd pop i’r perwyl hwnnw.

Allweddeiriau

Cerddoriaeth roc, papurau bro, iaith Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg, cerddoriaeth fyw.

Cyfeirnod

Jones, C. (2016), ‘Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg’, Gwerddon, 22, 11–30. https://doi.org/10.61257/VNQY7382 

Nôl i erthyglau