Rhifyn 36

Paradocs wrth bortreadu Patagonia yn y Gymru ddatganoledig: Archwiliad cychwynnol o Separado! (Gruff Rhys a Dylan Goch 2010)

Mae’r erthygl hon yn archwilio elfennau o’r portread o’r Wladfa a gyflwynir yn Separado! (2010), sef rhaglen ddogfen arbrofol o ran arddull gan Gruff Rhys a Dylan Goch. Saif y portread dan sylw yng nghyd-destun ystod o weithiau ffeithiol a ffuglennol am y Wladfa o safbwynt Cymru a gynhyrchwyd ers y 1940au. Trwy gyfrwng cysyniadau a ddeillia o theori lenyddol (Linda Hutcheon), cymdeithaseg diwylliant (Pierre Bourdieu), theori wleidyddol (Ernesto Laclau), theori llenyddiaeth taith (Graham Huggan a Patrick Holland; Peter Hulme), a theori ôl-drefedigaethol (Mary Louise Pratt), bydd yn bosib olrhain yn y rhaglen ddogfen dueddiadau a fodolai eisoes mewn portreadau eraill yng Nghymru, sef troi at Batagonia mewn cyfnodau heriol yn wleidyddol er mwyn datrys pryderon am Gymreictod yn ogystal ag am orffennol a dyfodol y wlad.

Allweddeiriau

Cymreictod, hunaniaeth, datganoli, cenedlaetholdeb, ôl-foderniaeth, ffilm, rhaglen ddogfen, Patagonia, Y Wladfa, Cŵl Cymru.

Cyfeirnod

Green, S. (2023), 'Paradocs wrth bortreadu Patagonia yn y Gymru ddatganoledig: Archwiliad cychwynnol o Separado! (Gruff Rhys a Dylan Goch 2010)', Gwerddon, 36, 67–86. https://doi.org/10.61257/SEPF9480 

Nôl i erthyglau