Rhifyn 9

Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru

Yn y papur hwn trafodir astudiaeth uchelgeisiol o oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru. Mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect, sydd yn astudio profiadau dysgwyr ledled y rhanbarth am gyfnod o dair blynedd. Dyma’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o’i math yn y maes. Arweinir y gwaith gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a’r Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng Medi 2008 ac Awst 2010, dosbarthwyd dau holiadur i ddechreuwyr ar gyrsiau holl ddarparwyr gogledd Cymru. Trafodir isod ganlyniadau’r holiaduron hynny, gan gynnwys agweddau megis cefndir y dysgwyr, eu rhesymau dros ddysgu Cymraeg, eu profiadau yn ystod eu cwrs a’u bodlonrwydd â’r ddarpariaeth. Amlinellir hanes y maes a gosodir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio a chynllunio iaith yng Nghymru a thu hwnt.

Allweddeiriau

Dysgu Cymraeg, gogledd Cymru, dwyieithrwydd, cynllunio iaith

Cyfeirnod

Andrews, H. (2011), 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru', Gwerddon, 9, 37-58. https://doi.org/10.61257/MSSP6932 

Nôl i erthyglau