Rhifyn 7

Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego

Mewn nifer o fannau, mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol sicrhau lefelau newydd o gefnogaeth etholiadol, tra bod nifer hefyd wedi’u sefydlu eu hunain fel pleidiau llywodraethol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw ysgolheigaidd sydd wedi ei roi i’r modd y bydd pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn ymaddasu i fod yn actorion canolog ar y lefel ranbarthol. Cyflwyna’r erthygl hon ddwy astudiaeth achos – Plaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego yng Ngalisia – er mwyn astudio sut y bu iddynt ymaddasu i ennill cynrychiolaeth, perthnasedd, a statws plaid lywodraethol ar y lefel ranbarthol. Dadleuir fod profiadau’r pleidiau hyn ymhell o fod yn unigryw. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu’r sialensau a wynebir gan unrhyw blaid wrth iddi ddatblygu o fod yn blaid protest, i fod yn blaid mewn grym.

Allweddeiriau

Gwleidyddiaeth, Plaid Cymru, Bloque Nacionalista Galego, Galisia, datganoli.

Cyfeirnod

Elias, A. (2011), 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego', Gwerddon, 7, 45-65. https://doi.org/10.61257/LBCF5865 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-2506-1462
Nôl i erthyglau