Rhifyn 7

Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau

Mae’r papur hwn yn ceisio rhoi cyfrif am yr amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ardal Treorci yng nghwm Rhondda Fawr ar ddiwedd yr 1970au. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ac addasu dulliau sosioieithyddol a ddatblygwyd gan arloeswyr yn y maes, yn enwedig William Labov. Dechreuir drwy roi disgrifiad ffonolegol clasurol o Gymraeg y siaradwyr brodorol a recordiwyd. Ond wedyn eir ymlaen i archwilio’r berthynas rhwng yr amrywio ‘rhydd’ a nodwyd yn iaith y siaradwyr, a hyn drwy gysyniad y newidyn ieithyddol a’r rhwydwaith cymdeithasol. Ceir dadansoddiad manwl o’r data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy’n ychwanegu at ein gwybodaeth o dafodieithoedd y Gymraeg, ynghyd â’n helpu i ddeall sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddewis iaith siaradwyr unigol.

Allweddeiriau

Treorci, Labov, sosioieithyddiaeth, ieithyddiaeth

Cyfeirnod

Brake, Ph. (2011), 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau', Gwerddon, 7, 9-44. https://doi.org/10.61257/AFQJ8335 

Nôl i erthyglau