Rhifyn 6

Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru

Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi’r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy’n amrywio drwy’r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o ‘ddiffeithwch gwyrdd’ yr ucheldir i’r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae’r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a’r tywydd.

Allweddeiriau

Newid hinsawdd, daearyddiaeth, tywydd, dogfennau.

Cyfeirnod

Jones, C., et al. (2010), 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, 34-54. https://doi.org/10.61257/MAND2331 

Nôl i erthyglau