Rhifyn 4

Ymateb ffydd i wyddoniaeth gyfoes

Ymddangosodd fersiwn o’r erthygl hon (a ysgrifennwyd gan Noel Davies) yn wreiddiol yn The SCM Core Text on World Christianity in the 20th Century, wedi’i hysgrifennu ar y cyd â Dr Martin Conway (Llundain: Gwasg SCM 2008). Ar ôl gosod y ddadl rhwng Gwyddoniaeth a Christnogaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, mae’n archwilio amrywiaeth o gwestiynau gwyddonol cyfoes, megis Damcaniaeth y Cwantwm a Pherthynoledd, Cosmoleg, Darganfod DNA, Trin Genynnau a Datblygiadau mewn Triniaeth Feddygol. Mae’r rhan olaf yn archwilio ymatebion Catholig, ymagweddau Efengylaidd a ffwndamentalaidd, ac ymatebion eciwmenaidd i rai o’r materion allweddol hyn. Mae’r erthygl yn gorffen drwy gadarnhau bod cysylltiad rhwng diwinyddiaeth Gristnogol a datblygiadau cyfoes mewn gwyddoniaeth yn hanfodol os yw’r mynegiad cyfoes o ffydd am fod yn ystyrlon ac yn gydlynol.

Allweddeiriau

Ffydd, gwyddoniaeth, diwinyddiaeth.

Cyfeirnod

Davies, N. (2009), 'Ymateb ffydd i wyddoniaeth gyfoes', Gwerddon, 4, 36-50. https://doi.org/10.61257/CUFS2827 

Nôl i erthyglau