Rhifyn 34

Duw a’r ddiod gadarn: Americaneiddio hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol y Cymry ym myddin yr Undeb yn ystod y Rhyfel Cartref

Mae’r erthygl hon yn dangos sut yr oedd bywyd bob dydd ym myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America (1861–5) wedi dylanwadu’n sylweddol ar esblygiad hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol y Cymry, gan ganolbwyntio ar rôl crefydd ac alcohol. Yn wreiddiol, roedd crefydd yn rhoi cysur diwylliannol i wirfoddolwyr Cymraeg wrth iddynt geisio sefydlu cnewyllyn o’u diwylliant brodorol yn y rhengoedd. Fodd bynnag, daeth ffydd gyffredin Gristnogol i uno milwyr o Gymru ac o du hwnt i Gymru, gan weithredu fel rhwymyn o gymrodoriaeth. Er i lawer o Gymry osgoi alcohol oherwydd eu magwraeth lem, draddodiadol, bu nifer fawr ohonynt yn yfed yn frwd i gyfleu eu gwrywdod. Daeth y ddefod o gynnig cwrw a wisgi i gymrodyr yn weithgaredd cymdeithasol hanfodol, a greodd hunaniaeth filwrol nodedig Americanaidd.

Allweddeiriau

Rhyfel Cartref America, Cymreig, Cymraeg, hunaniaeth, gwirfoddolwyr.

Cyfeirnod

Jones, A. (2022), ‘Duw a’r ddiod gadarn: Americaneiddio hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol y Cymry ym myddin yr Undeb yn ystod y Rhyfel Cartref’, Gwerddon, 34, 23–45. https://doi.org/10.61257/YYOZ3708

Nôl i erthyglau