Rhifyn 33

Adnabod y peryglon – dadansoddiad cychwynnol o gamblo ymysg myfyrwyr chwaraeon

Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglŷn â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau. 

Allweddeiriau

Myfyrwyr Chwaraeon, gamblo, risg, niwed, twyllo, betio, rheolau uniondeb gamblo, gamblo problemus.

Cyfeirnod

Jones, C., Jones, M., a Mayes, D. (2021), ‘Adnabod y peryglon – dadansoddiad cychwynnol o gamblo ymysg myfyrwyr chwaraeon', Gwerddon, 33, 33–54. https://doi.org/10.61257/MJEN7131

Nôl i erthyglau