Rhifyn 33

Astudiaethau cerddo-lenyddol yng Nghymru: y diffyg a’r galw

Yn yr erthygl hon, ceir trosolwg beirniadol o faes ymchwil astudiaethau geiriau a cherddoriaeth, neu astudiaethau cerddo-lenyddol, yng Nghymru. Mae’r maes hwn yn ymdrin â’r berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ei amryw ffyrdd. Cwmpas yr erthygl hon yw astudiaethau beirniadol a gyhoeddwyd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn y Gymraeg, a’r bwriad yma yw cyflwyno’r prif weithiau a syniadau dylanwadol, gan gydnabod hefyd nad yw’n bosib ymdrin â phob cyhoeddiad yn yr astudiaeth bresennol. Gosodir y maes yn ei gyd-destun beirniadol drwy ddarparu amlinelliad o’r ddisgyblaeth yn ehangach, a chynigir trywyddau ymchwil posib ar gyfer datblygu a ffurfioli’r maes yng Nghymru.

Allweddeiriau

Gwerddon, astudiaethau geiriau a cherddoriaeth, llenyddiaeth Gymraeg, cerddoriaeth, astudiaethau cerddo-lenyddol, ugeinfed ganrif, cerddoriaeth draddodiadol, emynyddiaeth, cerddoriaeth boblogaidd.

Cyfeirnod

Ifan, E. (2021), ‘Astudiaethau cerddo-lenyddol yng Nghymru: y diffyg a’r galw', Gwerddon, 33, 6–32. https://10.61257/GXYJ3639

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-3495-4457
Nôl i erthyglau