Rhifyn 31

Seduir, seduce, més que dir que han de fer català: Astudiaeth o bolisïau iaith mewn addysg, integreiddio a mewnfudo rhyngwladol yng Nghatalwnia

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi llywodraethiant mewnfudo yng Nghatalwnia, gan ganolbwyntio’n benodol ar y mesurau iaith mewn addysg a roddir ar waith i addysgu’r Gatalaneg i fewnfudwyr. Canolbwyntir yn benodol ar y rhaglen Voluntariat per la llengua (VxL),  sef  prif  weithgaredd  y  Consorci  per  a  la  Normalització  Lingüística  (CPNL),  y  prif ddarparwr ffurfiol ar gyfer addysgu’r Gatalaneg i oedolion yng Nghatalwnia, ynghyd â swyddogaeth siaradwyr Catalaneg mewn ymdrechion i integreiddio mewnfudwyr yn ieithyddol. Dadleuir bod siaradwyr ieithoedd  lleiafrifoedd yn ganolog i’r  broses o addysgu Catalaneg i fewnfudwyr, a bod eu cyfranogiad mewn polisïau  a phrosiectau ieithyddol  yn cyfrannu  at  gydlyniad cymdeithasol a chysylltiadau  rhwng  grwpiau yn ogystal â chynaliadwyedd    y Gatalaneg. Felly, gyda chynllunio iaith pwrpasol, gall mewnfudwyr a siaradwyr iaith leiafrifol gryfhau neu adnewyddu sefyllfa iaith leiafrifol.

Allweddeiriau

Mewnfudo, Catalwnia, polisi iaith mewn addysg, Voluntariat per la llengua, rhyngddiwylliannedd.

Cyfeirnod

Edwards, C. (2020), ‘Seduir, seduce, més que dir que han de fer català: Astudiaeth o bolisïau iaith mewn addysg, integreiddio a mewnfudo rhyngwladol yng Nghatalwnia’, Gwerddon, 31, 83–111. https://doi.org/10.61257/RILP6008  

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-6241-4178
Nôl i erthyglau