Rhifyn 31

Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig

Trafoda’r erthygl gwestiynau a gododd yn sgil llunio Gwlad yr Asyn, sef drama lwyfan ar ffurf monolog. Cafodd y ddrama ei hysgrifennu fel ymateb gwrthimperialaidd Cymreig i destun canonaidd Shakespeare, The Tempest. Yn gyntaf, ystyria’r erthygl  y diffyg traddodiad a geir yng Nghymru o ysgrifennu dramâu gwrthddisgwrs Shakespearaidd o safbwynt Cymreig, cyn canolbwyntio ar y cwestiwn, ‘beth a ddylai nodweddu’r ddrama ôl- drefedigaethol Gymreig?’. Dadleua y dylai gyfleu ‘golwg deublyg’, hynny yw, cydnabod bod gan Gymru etifeddiaeth o ddwy ochr y rhaniad imperialaidd: gwlad a gafodd ei gwladychu ond sydd hefyd wedi gwladychu.

Allweddeiriau

Gwlad yr Asyn, drama, ôl-drefedigaethol, Shakespeare, ysgrifennu creadigol.

Cyfeirnod

Mason, W. (2020), ‘Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig’, Gwerddon, 31, 31-58. https://doi.org/10.61257/TKET6526 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-5212-7693
Nôl i erthyglau