Rhifyn 30

Gwella gwasanaethau gofal iechyd â chymorth cleifion: Casglu PROMs a PREMs ledled Cymru

Golyga pwysau ar Wasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) Cymru fod angen ffyrdd newydd o ddarparu safonau uchel o ofal gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Un dull yw gweithio’n agosach â chleifion, gan gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Outcome Measures) (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Experience Measures) (PREMs). Gobeithir y bydd casglu data o’r fath yn helpu wrth geisio darparu gofal iechyd darbodus. Rhy’r erthygl hon arolwg o ddatblygu’r system gasglu genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Casglodd y system 66,000 PROMs a PREMs gan 25,000 claf dros dair blynedd, a dengys defnydd cynnar o’r data hyn y potensial i wella gwasanaethau. Y bwriad hir-dymor yw gwneud casglu data o’r fath yn rhan reolaidd o ofal iechyd eilaidd yng Nghymru.

Allweddeiriau

Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion, PROMs, Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion, PREMs, GIG Cymru.

Cyfeirnod

Palmer, R., et al. (2020), ‘Gwella gwasanaethau gofal iechyd â chymorth cleifion: Casglu PROMs a PREMs ledled Cymru’, Gwerddon, 30, 40–67. https://doi.org/10.61257/DVRI8812 

Nôl i erthyglau