Rhifyn 2

Annie Ellis ‘Cwrt Mawr’, Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru

Mae’r erthygl hon yn amlinellu’r cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan Annie Ellis (Davies gynt) i adfywio caneuon gwerin yng Nghymru ac, yn benodol, ei dylanwad yn ardal Aberystwyth / Sir Aberteifi yn ystod degawdau cyntaf yr Ugeinfed Ganrif. Mae’n tynnu ar ohebiaeth wreiddiol, dyddiaduron gwaith maes, trawsgrifiadau wedi’u nodiannu, erthyglau papur newydd (yn y Gymraeg a’r Ffrangeg) a recordiadau ffonograff o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig, Bibliotèque Nationale de France a chasgliadau preifat. Trafodir y meysydd canlynol:

  • Ymwneud Annie Ellis â gweithgareddau cysylltiedig â chaneuon gwerin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan gynnwys sefydlu Cymdeithas y Canorion, cystadlaethau casglu caneuon gwerin a pherfformiadau o opereta J. Lloyd Williams, Aelwyd Angharad.
  • Chwe chyngerdd hanesyddol arwyddocaol o ganu traddodiadol Cymru a roddwyd gan bedwarawd o gantorion israddedig ym Mharis yn ystod mis Mawrth 1911, gan gynnwys perfformiadau yn Le Lied en Tout Pays ac Amffitheatr Richelieu (Sorbonne). Roedd yr ymweliad hwn yn ymgorffori’r Entente Cordiale a sefydlwyd rhwng Prydain a Ffrainc yn ystod y blynyddoedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf. Cysylltiad â Madame Lucie Barbier (pennaeth astudiaethau lleisiol yn y Brifysgol) ac ymateb cadarnhaol y wasg ym Mharis.
  • Ymweliad gwaith maes tri diwrnod Ruth Lewis ac Annie Ellis â Llandysul, Pencader a’r cyffiniau ym mis Mehefin 1913 a chanlyniad eu gwaith casglu caneuon gwerin, gan gynnwys gwerthusiad o’r testunau a’r melodïau a gasglwyd.

Mae’r erthygl hefyd yn amlygu rôl un fenyw Edwardaidd wrth ddatblygu bywyd diwylliannol Cymru a’i hymgeisiau i hyrwyddo canu traddodiadol Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Allweddeiriau

Canu gwerin, Annie Ellis, menywod, cerddoriaeth.

Cyfeirnod

Thomas, W. (2007), 'Annie Ellis "Cwrt Mawr", Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru', Gwerddon, 2, 51-86. https://doi.org/10.61257/OJGH7911 

Nôl i erthyglau