Rhifyn 2

Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg

Mae dadansoddiadau Aitchison a Carter o’r Cyfrifiad dros y degawdau diwethaf wedi llwyddo i sicrhau bod y prif dueddiadau o ran dosbarthiad gofodol y Gymraeg yn hysbys i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith. Serch hynny, mae rhai agweddau yn dal i fod heb eu harchwilio. Ymgais yw’r papur hwn i roi golwg wahanol ar y tueddiadau drwy gyflwyno nifer o ddadansoddiadau newydd. Yn y rhan gyntaf, archwilir cynhyrchiad iaith rhwng 1991 a 2001 sydd yn effaith y system addysg. Dangosir bod cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Ngwent wedi arwain at y newidiadau mwyaf. Yn yr ail ran, edrychir ar ddosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle gallai mwy na 70% siarad Cymraeg. Cyflwynir rhai mynegeion er mwyn mesur y sefyllfa ac esbonio arwyddocâd yr ardaloedd hynny. Yn olaf, trafodir goblygiadau dosbarthiad gofodol (neu rwydwaith cymdeithasol) i ddefnydd y Gymraeg drwy ystyried damcaniaeth debygolrwydd fach.

Allweddeiriau

Cyfrifiad 2001, siaradwyr Cymraeg.

Cyfeirnod

Jones, H. (2007), 'Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg', Gwerddon, 2, 12-34. https://doi.org/10.61257/WGFG6006 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-8308-2002
Nôl i erthyglau