Rhifyn 19

Tyrfedd yng Ngwynt yr Haul

Defnyddir lloerennau Cluster er mwyn ymchwilio i wynt yr Haul, a chan y ceir pedair lloeren, gellir mesur strwythur 3-D gwynt yr Haul. Gan fod tyrfedd yn ffenomen 3-D, y mae Cluster yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i dyrfedd. Dengys yr arsylwadau hyn y goruchafir tyrfedd yng ngwynt yr Haul ar feintiau radiws cylchdroi protonau gan donnau Alfvén Cinetig yn ogystal â fortecsau magnetig. Y mae’r ymchwil hon yn atgyfnerthu’r dybiaeth o fodolaeth tonnau Alfvén Cinetig yng ngwynt yr Haul ac yn awgrymu am y tro cyntaf y gall tonnau a fortecsau magnetig gydfodoli yng ngwynt yr Haul.

Allweddeiriau

Tyrfedd, gwynt yr Haul, tonnau.

Cyfeirnod

Roberts, O., Li, X., a Li, B. (2015), 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul', Gwerddon, 19, 45-58. https://doi.org/10.61257/TAPF4199 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Owen Roberts: 0000-0002-8945-3967
Nôl i erthyglau