Rhifyn 17

Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy’n codi o brofiad ymgyrchu’r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a’r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; ‘beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?’ Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i’r drafodaeth sy’n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth.

Allweddeiriau

Cymru, sosialaeth, cymuned, chwyldro, cymdeithasiaeth.

Cyfeirnod

Williams, S. (2014), 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, 41-57. https://doi.org/10.61257/YPCN1159 

Nôl i erthyglau