Rhifyn 17

Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au

Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970) oedd un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru am ran helaeth o’r ugeinfed ganrif. Bu’n Archdderwydd ddwywaith a chwaraeodd ran ganolog ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo’r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ef hefyd oedd un o awduron Rheol Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, rheol y daliodd yn gryf o’i phlaid fel Llywydd Llys yr Eisteddfod tuag at ddiwedd ei oes. O gymharu, Dafydd Iwan oedd un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fabwysiadodd ‘ddulliau chwyldro’ yn ystod y 1960au. Yn yr erthygl hon, ystyrir y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan a’r modd y cynrychiolai’r gwrthdaro hwnnw ymrafael ynghylch yr union ddiffiniad o Gymreictod ar y pryd.

Allweddeiriau

Cynan, Eisteddfod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cyfeirnod

Wiliams, G. (2014), 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au', Gwerddon, 17, 12-22. https://doi.org/10.61257/ENCD2720  

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-7134-4543
Nôl i erthyglau