Rhifyn 16

Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau

Yn 2015, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyflwyno cynllun caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Yn fras, yn ôl y cynllun hwn, os na fynegwyd gwrthwynebiad gan oedolion yng Nghymru i roi eu horganau ar ôl iddynt farw, ac os na leisir gwrthwynebiad gan eu teuluoedd, tybir gan yr awdurdodau fod caniatâd wedi ei roi. Yn ôl y drefn bresennol, rhoddir cyfrifoldeb ar yr unigolyn i gofrestru fel rhoddwr, ond gyda gweithredu’r cynllun newydd, gofynnir i’r unigolyn ddatgofrestru os mai dyna yw ei ddymuniad. Cyflwynir yma werthusiad o’r cynllun o safbwynt cyfreithiol a moesegol.

Allweddeiriau

Rhoi organau, caniatâd tybiedig, Llywodraeth Cymru.

Cyfeirnod

ap Gwent, Rh. (2013), 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau', Gwerddon, 16, 63-77. https://doi.org/10.61257/RSEP4797 

Nôl i erthyglau