Rhifyn 16

Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru

Arweiniodd datganoli at wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Yn ogystal, mae’r drafodaeth ynghylch yr angen i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân i Loegr wedi dechrau o ddifrif. Gyda hyn mewn golwg, mae’r erthygl yn edrych ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, ac yn ystyried pa ddatblygiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiadau pellach y byddai galw amdanynt pe sefydlid awdurdodaeth Gymreig. Yn sgil hynny, mae’r erthygl yn amlinellu rhai o ddarganfyddiadau allweddol prosiect ymchwil empeiraidd a gynhaliwyd yng Ngogledd Iwerddon, sydd – fel awdurdodaeth fechan â llywodraeth ddatganoledig o fewn y Deyrnas Unedig – yn cyflwyno safbwynt dadlennol.

Allweddeiriau

Y Gyfraith, awdurdodaeth gyfreithiol, addysg gyfreithiol, datganoli, Cymru, Gogledd Iwerddon.

Cyfeirnod

Rees, O., a Pritchard, H. (2013), 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru', Gwerddon, 16, 40-62. https://doi.org/10.61257/JIZD3014 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Huw Pritchard: 0000-0002-5244-9681
Nôl i erthyglau