Rhifyn 16

Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y pwyslais ar bryderon cyfredol yng Nghymru

Ystyrir y cynnydd yng nghanran y boblogaeth hŷn yn her fyd-eang yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y Gymru gyfoes, mae’r anghydbwysedd cynyddol ym mhroffeil oedran y gymdeithas – mewn cymunedau gwledig yn arbennig – yn codi cwestiynau pwysig ynghylch darparu gofal iechyd addas i’r boblogaeth hŷn. Ceir galw cynyddol am y gofal hwnnw yn wyneb elfennau ffordd o fyw a gysylltir â henaint; lefelau isel o weithgaredd corfforol, llai o amlygiad i’r haul ynghyd â gallu’r corff i syntheseisio Fitamin D. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddau o’r problemau iechyd mwyaf sy’n ganlyniad i’r elfennau hyn, a bair ofid cynyddol yng Nghymru, sef clefyd siwgr (DM2: diabetes mellitus math 2) ac achosion o gwympo (cael codwm). Cyflwynir adolygiad beirniadol ar y dystiolaeth ddogfennol a gasglwyd ynghylch y berthynas rhwng lefelau gweithgaredd corfforol, Fitamin D a’r pathogenesis o DM2 ac achosion o gwympo. Eir ati hefyd i drafod natur ymyriadau cyfredol cyn cyflwyno cyfres o argymhellion ynglŷn â sut i ddarparu gwasanaethau gwell er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn, yn bennaf yng Nghymru wledig. Gall targedu ffordd o fyw chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau’r achosion o DM2 a chwympo; dau bryder cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru heddiw.

Allweddeiriau

Clefyd siwgr, cwympo, henoed, fitamin D, gweithgaredd corfforol.

Cyfeirnod

Curtis, Ff. et al., (2013), 'Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y pwyslais ar bryderon cyfredol yng Nghymru', Gwerddon, 16, 28-39. https://doi.org/10.61257/KAHV3352 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Ffion Curtis: 0000-0001-6843-8568
Nôl i erthyglau