Rhifyn 15

Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi ymweliad i Sbaen y Cadfridog Franco gan Gôr y Rhos, ar wahoddiad un o fudiadau Franco Educación y Descanso (Addysg a Hamdden). Yn y lle cyntaf, bu tipyn o drafod yn y wasg yn lleol am egwyddorion teithio i wlad a oedd, bryd hynny, wedi ei heithrio o’r gymuned ryngwladol. Hanai’r côr o ardal a oedd wedi gweld ymwneud â’r brigadau rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac a oedd hefyd, drwy gyd-ddigwyddiad, ynghlwm wrth sefydlu gŵyl ddiwylliannol ryngwladol yn enw heddwch a dealltwriaeth. Mae’r erthygl yn ymchwilio i hanes y daith i Sbaen, i’r ddelwedd a gyflwynir o gyfundrefn Franco, ac mae’n gofyn i ba raddau y defnyddiwyd y daith gan Franco fel propaganda wrth i’w bolisi tramor newid gyda dyfodiad y Rhyfel Oer.

Allweddeiriau

Cyfundrefn Franco, polisi tramor Franco, Educación y Descanso, propaganda twrisitiaeth, Sbaen.

Cyfeirnod

Edwards, S. (2013), 'Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos', Gwerddon, 15, 60-78. https://doi.org/10.61257/BFXD6165 

Nôl i erthyglau