Rhifyn 15

Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda

Bwriad yr erthygl hon yw tynnu sylw at nodweddion diddorol gwaith Grazia Deledda (1871-1936), awdures o Sardinia sydd heb dderbyn sylw beirniadol digonol. Mae’r erthygl yn trafod y berthynas rhwng hunaniaeth, iaith ac adrodd mewn dwy nofel bwysig gan Deledda, sef La madre (Y Fam) ac Il segreto dell'uomo solitario (Cyfrinach y dyn unig). Dadansoddir sut y mae’r ddau brif gymeriad yn ceisio deall eu hunaniaethau, gan wynebu eu gofidion a’u gobeithion am fywyd. Gwelwn ar y naill law bod rhyngweithio ieithyddol yn hanfodol i rai, tra bod iaith ei hun yn arf sy’n galluogi eraill i reoli hunaniaeth.

Allweddeiriau

Eidaleg, llenyddiaeth menywod, hunaniaeth, iaith, moderniaeth.

Cyfeirnod

Jewell, Rh. (2013), 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda', Gwerddon, 15, 9-24. https://doi.org/10.61257/BLHM4079 

Nôl i erthyglau