"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar
"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar
Craig Owen Jones
Mae’r erthygl hon yn cynnwys dadansoddiad o siartiau tri phapur newydd yn ystod y flwyddyn 1972, yn canolbwyntio ar batrymau rhanbarthol a chenedlaethol, a hefyd ar berfformiad recordiau roc yn y siartiau. Dadlennir bod y siartiau o werth fel dangosydd gwerthiant tebyg, ond hefyd oherwydd eu statws fel cyfrwng i’r cyhoedd gymryd rhan yn y byd pop Cymraeg.
Cyfeiriad:
Craig Owen Jones, '"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 29-45.
Allweddeiriau
Cerddoriaeth boblogaidd, siartiau pop, Cymru, diwydiant pop, papurau newydd Cymraeg.