Rhifyn 13

Ecoleg unigryw Ophelia bicornis, Savigny (Polychaeta)

Y mae dosbarthiad daearyddol Ophelia bicornis yn gyfyngedig i arfordir Môr y Canoldir, y Môr Du ac arfordir gorllewinol Ewrop hyd at Lydaw a rhannau o ddeheudir Prydain Fawr. O fewn y dosbarthiad llydan hwn, cyfyngir y mwydyn i rannau cul iawn (yng nghyd-destun codiad a disgyniad y llanw) o dywod sydd, ar y cyfan, yn anghymwys i gynnal poblogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Serch hyn, dangosir bod Ophelia yn llwyddo ac yn ffynnu – a bod hyn yn dibynnu, i raddau helaeth iawn, ar addasiadau corfforol a ffisiolegol.

Allweddeiriau

Ophelia bicornis, ecoleg, aber afon Wysg, bioddaeareg, asidau amino “rhydd”.

Cyfeirnod

Harris, T. (2013), 'Ecoleg unigryw Ophelia bicornis, Savigny (Polychaeta)', Gwerddon, 13, 48-65. https://doi.org/10.61257/BBNX1175 

Nôl i erthyglau