Rhifyn 12

Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf

Ceir cefnogaeth gref i’r cysyniad o ecosystemau rhewlifol drwy fesuriadau o gyfraddau sylweddol o gylchu carbon a maetholynnau ar rewlifoedd cyfoes. Serch hynny, ni roddwyd llawer o ystyriaeth i bwysigrwydd posibl y cyfraniadau hyn yn ystod cyfnodau cynt o rewlifiant. Felly modelwyd cynefinoedd a llifoedd carbon ar rai o baleorewlifoedd gogledd Cymru o’r Dryas diweddaraf. Amcangyfrifwyd amsugniad net o 30-180 kg C fesul CO2 y flwyddyn ac allyriad methan rhwng 265-1591 g C fel CH4. Mae hyn yn pwysleisio’r posibilrwydd o gylchu carbon ar rewlifoedd diweddaraf Cymru ond gellir ymestyn ar hyn drwy wella ein sail data cyfoes, archwilio biofarcwyr o fewn gwaddodion a mewngorffori’r data i fodelau llif thermomecanig o ddeinameg rhewlifoedd y Defensaidd.

Allweddeiriau

Ecosystemau rhewlifol, rhewlifoedd y Dryas Diweddaraf, Eryri, rhewlifiant; biogeocemeg.

Cyfeirnod

Edwards, A., et al. (2012), 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, 53-78. https://doi.org/10.61257/YJNS7387 

Nôl i erthyglau