Rhifyn 1

Llais y genhades Gymreig, 1887–1930

Mae'r erthygl hon yn archwilio goblygiadau diwylliannol enwogrwydd merched a enillwyd drwy gymryd rhan yng ngweithgarwch cenhadol trefedigaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cafodd merched eu gorchymyn i gyflawni swyddogaethau penodol yn y broses o greu cymunedau Cristnogol mewn trefedigaethau Prydeinig, gan gynnwys troi merched eraill a rhoi disgrifiadau ac esboniadau o’r genhadaeth i gynulleidfa gartref. Yn ogystal â darlithoedd a phregethau gan genhadon, ac arddangosfeydd cenhadol, y prif lwybr trosglwyddo ar gyfer y cyfathrebu hwn oedd y wasg genhadol enwadol. Mae’r erthygl hon yn archwilio sut yr oedd y cenhadon benywaidd yn eu cyflwyno eu hunain a’u gwaith i’r gynulleidfa gartref yn y wasg genhadol rhwng 1887 a 1930, ac yn awgrymu mai’r delweddau yr oeddent yn eu cyflwyno, a'r isleisiau y gellir eu cael yn eu hysgrifennu, oedd y brif ysbrydoliaeth i ferched Presbyteraidd Cymru gefnogi’r achos cenhadol, ac ymffurfio’n fudiad hynod a ddaeth yn sianel hollbwysig ar gyfer noddi gwaith cenhadol.

Allweddeiriau

Cenhadu, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y wasg genhadol, menywod.

Cyfeirnod

Schiavone, G. (2007), 'Y Genhades Gymreig, 1887-1930', Gwerddon, 1, 27-42. https://doi.org/10.61257/WFTP1463 

Nôl i erthyglau