Croeso i Gwerddon
Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg.
Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg.
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007 ac ar y wefan hon gellir darllen pob rhifyn o'r cyfnodolyn oddi ar hynny.
Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.