Mae Dr Robert Bowen yn ddarlithydd mewn mentergarwch rhyngwladol yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys mentergarwch gwledig, yn enwedig twf mewn busnesau bwyd a diod bychain a chanolig. Y mae hefyd wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar frandio bwyd a diod Cymreig ar lefel rhyngwladol. Hefyd, bu’n ddarlithydd mewn Busnes gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle y gwnaeth ddatblygu’r rhaglen o gyrsiau Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg.
Robert Bowen a Wyn Morris, ‘Egni adnewyddadwy: cyfle i ffermwyr arallgyfeirio mewn amgylchedd busnes heriol?’, Gwerddon, 31, Hydref 2020, 112-133.