Gwyn Bellamy


Mae Gwyn Bellamy yn Athro mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Glasgow. Mae’n hantu o Lanrhystud, ger Aberystwyth, a derbyniodd ei radd israddedig o Brifysgol Warwick cyn astudio ar gyfer Ph.D. ym Mhrifysgol Caeredin gyda’r Athro Iain Gordon. Ar ôl gweithio mewn swyddi ôl-ddoethurol yn Chicago, Bonn a Manceinion, dechreuodd weithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Glasgow yn 2012. Ei faes ymchwilio yw theori cynrychioliad geometreg, maes sy’n gorwedd rhwng algebra a geometreg. Yn 2018, derbyniodd un o Fedalau Dillwyn (pynciau STEM) oddi wrth Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Gwyn Bellamy, ‘Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol’, Gwerddon, 29, Hydref 2019, 81–98.