Y Bwrdd Golygyddol
Rheolir Gwerddon gan Fwrdd Golygyddol sydd ag aelodau yn cynrychioli nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru ac ystod o ddisgyblaethau academaidd gwahanol. Mae'r Bwrdd Golygyddol yn cyfarfod unwaith y flwyddyn. Ceir Bwrdd Prosiect hefyd sy'n gyfrifol am weinyddiad Gwerddon o ddydd i ddydd.
Mae aelodau Bwrdd Golygyddol Gwerddon yn cynorthwyo'r golygydd, Dr Anwen Jones, a'r Is-Olygydd, Dr Hywel Griffiths, yn eu gwaith. Dyma grynodeb o strwythur y Bwrdd Golygyddol a dyletswyddau'r aelodau:
1. Aelodaeth y Bwrdd Golygyddol
1.1. Fel arfer bydd 10 aelod ar y Bwrdd. Disgwylir y bydd yr aelodau yn cynrychioli ystod eang o bynciau academaidd.
1.2. Bydd aelodau’n gwasanaethu am dymor penodol o bedair blynedd a fydd fel arfer yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst.
1.3. Bydd tymor dau neu dri o’r aelodau’n dod i ben bob blwyddyn.
1.4. Gwneir penodiadau i’r Bwrdd gan y Golygydd mewn trafodaeth â’r Cadeirydd a’r Bwrdd Golygyddol.
1.5. Bydd modd i’r Golygydd wahodd aelodau i gwblhau tymor neu dymhorau ychwanegol.
2. Swyddogion y Bwrdd Golygyddol
Yn arferol:
2.1. Bydd Cadeirydd yn gwasanaethu am dymor penodol o 3 blynedd.
2.2. Bydd modd ailethol Cadeirydd am ail dymor o 3 blynedd.
2.3. Bydd Golygydd yn gwasanaethu am 5 mlynedd gyda hyd at ddau estyniad posibl o 3 blynedd, yn ddibynnol ar gydsyniad y Swyddogion eraill a’r Bwrdd Golygyddol.
2.4. Bydd Is-olygydd yn gwasanaethu am 5 mlynedd gyda hyd at ddau estyniad posibl o 3 blynedd, yn ddibynnol ar gydsyniad y Swyddogion eraill a’r Bwrdd Golygyddol.
2.5. Bydd tymor pob swyddog fel arfer yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst
3. Sylwedyddion
3.1. Bydd modd i’r Golygydd wahodd sylwedyddion i gyfarfodydd y Bwrdd
4. Dyletswyddau aelodau’r Bwrdd Golygyddol
4.1. Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd. Disgwylir i aelodau’r Bwrdd fynychu’r holl gyfarfodydd oni cheir rheswm penodol. Gofynnir i aelodau sydd wedi colli dau gyfarfod yn olynol i adael y Bwrdd oni cheir rheswm penodol.
4.2. Rhoi arweiniad ynglŷn â chynnwys y cyfnodolyn. Gallai hyn olygu awgrymu meysydd nad ydynt wedi cael eu cynrychioli yn Gwerddon, ac awgrymu rhifynnau arbennig posibl.
4.3. Annog cyfraniadau i Gwerddon – trwy hybu Gwerddon o fewn eu sefydliadau / meysydd ymchwil. Cydweithio gyda’r Golygydd / Cynorthwyydd Golygyddol wrth gysylltu gyda darlithwyr / myfyrwyr ôl-raddedig er mwyn eu hannog i gyhoeddi eu hymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.
4.4. Arfarnu erthyglau neu awgrymu enwau arfarnwyr posibl yn eu maes.
4.5. Rhannu arferion da a gwybodaeth ynglŷn â chyhoeddi academaidd yn eu maes.
I ddarllen mwy am Aelodau Bwrdd Golygyddol Gwerddon, cliciwch ar eu henwau isod: