Ieithoedd Brodorol


Ieithoedd Brodorol

Ieithoedd Brodorol yw testun trydydd rhifyn arbennig rhithiol Gwerddon. Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon, sydd wedi tynnu'r rhifyn hwn ynghyd.

Roedd 2019 yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO (https://en.iyil2019.org/), menter a oedd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol ieithoedd brodorol ym mywydau pobl am nifer o resymau, gan gynnwys addysg, ac ar yr un pryd yn amcanu i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad sydd i ieithoedd brodorol heddiw. Cynhaliwyd Gŵyl Ein Llais yn y Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd Tachwedd 2019, a chafwyd rhaglen gyfoethog o drafodaethau yn canolbwyntio ar ddysgu a defnyddio iaith, llên, y celfyddydau, y cyfryngau, ynghyd â pholisi a chynllunio iaith, gan amlygu profiad o Gymru a gwledydd eraill. Cafwyd sesiwn o gyflwyniadau byrion gan ymchwilwyr a gyhoeddodd erthyglau yn Gwerddon ar y themâu hyn ar hyd y blynyddoedd, gan danlinellu’r cyfraniad y mae ymchwilwyr a gyhoeddodd yn Gwerddon wedi ei wneud i’r drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill ers 2007. Mae’r erthyglau a dynnwyd ynghyd yn y rhifyn arbennig rhithiol hwn, y trydydd o’i fath, yn cynrychioli’r cyfoeth o waith a gyhoeddwyd yn Gwerddon ar faterion mor amrywiol â llenyddiaeth, addysg, canu poblogaidd, ieithyddiaeth, technoleg, gwleidyddiaeth, cyfraith a demograffeg y Gymraeg. Mae’n debyg y gellid cyfiawnhau holl erthyglau Gwerddon mewn rhifyn arbennig ar ieithoedd brodorol, gan fod Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau mewn iaith frodorol, leiafrifol mewn cyd-destun economaidd a gwleidyddol heriol. Hyd yn oed o ddewis yr erthyglau sydd yn trafod y Gymraeg yn uniongyrchol, fodd bynnag, mae gormod ohonynt i gyhoeddi mewn un rhifyn rhithiol. Dewiswyd erthyglau i gynrychioli’r amrywiaeth o feysydd ymchwil, yn y gobaith y bydd yn codi awydd i bori yn yr archif ac yn ysbrydoli ymchwilwyr i barhau i drafod y Gymraeg yn ei holl amrywiaeth rhwng cloriau Gwerddon.

8 Ionawr 2020

-----

Lowri Cunnington Wynn, ‘“Beth yw’r ots gennyf i am Gymru?”: Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg’, Gwerddon, 28, Mawrth 2019, 43–63.

Iwan Wyn Rees a Jonathan Morris, ‘Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith’, Gwerddon, 27, Hydref 2018, 39–66.

Mirain Rhys, ‘Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’, Gwerddon, 26, Mawrth 2018, 39–68.

Ben Screen, ‘Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i’r Gymraeg’, Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 10–35. 

Hanna Binks ac Enlli Thomas, ‘Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o’r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg’, Gwerddon, 22, Hydref 2016, 31–46.

Sel Williams, ‘Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’, Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41–57.

Craig O. Jones, ‘Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au’, Gwerddon, 16, Hydref 2013, 10–27.

R. Gwynedd Parry, ‘Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?’, Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 9–36.

Hunydd Andrews, ‘Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru’, Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 37–58.

Catrin Fflur Huws, ‘Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri’r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol’, Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 7–27.

Phylip Brake, ‘Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau’, Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 9–44.

Huw Lewis, ‘Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?’, Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 55–73.

Hywel Jones, ‘Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg’, Gwerddon, 2, Hydref 2007, 12–34.

Diarmait Mac Giolla Chríost, ‘Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg’, Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 43–52.