Rhifyn Arbennig Rhithiol 2: Daearyddiaeth


Rhifyn Arbennig Rhithiol 2: Daearyddiaeth

Daearyddiaeth yw thema ail rifyn arbennig rhithiol Gwerddon. Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth, sy'n cyflwyno'r rhifyn hwn.

Pleser o’r mwyaf yw cael ysgrifennu’r cyflwyniad i’r rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon ar Ddaearyddiaeth. Dengys yr erthyglau a gynhwysir yn y rhifyn hwn yr amrediad o themâu a astudir o fewn Daearyddiaeth gyfoes. Mae’n bwnc eang dros ben sy’n cwmpasu sawl maes gwahanol; o astudiaethau o’r prosesau sy’n llunio hunaniaethau cyfoes, i ymchwiliadau manwl o’r prosesau cemegol sy’n gysylltiedig â llygredd o bob math. Er y gall edrych fel pwnc eclectig ar brydiau, yr hyn sy’n uno’r holl astudiaethau hyn yw eu hymdrech i ddeall cyfraniad safbwynt neu ddynesiad daearyddol – un sy’n pwysleisio arwyddocâd nodweddion daearyddol megis gofod, lle, graddfa, symudedd, yr amgylchedd ac ati – ar gyfer deall a datrys yr amryw heriau sy’n wynebu ein byd.

Mae nifer o resymau penodol pam y dylwn ni fod yn dathlu cyfraniad daearyddwyr a Daearyddiaeth yn y rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon. Yn gyntaf, mae tystiolaeth yn dangos bod yr heriau sy’n wynebu ein byd yn cynyddu mewn amlder a dwyster, a bod angen dirfawr am ddehongliadau daearyddol er mwyn mynd i’r afael â hwy. Sut y gallwn ni geisio dechrau dehongli trychineb y Rohingya yn Myanmar neu ffoaduriaid o Syria yn Ewrop heb ddeall yr anhafaliadau gofodol rhwng gwledydd gwahanol, y dychymyg daearyddol sy’n cysylltu rhai pobl â thiriogaethau penodol ac yn eu gwahardd o diriogaethau eraill, ynghyd â’r ymdrechion cynyddol sydd yn ein byd i reoli symudedd pobl? Yn yr un modd, sut y gallwn ni geisio dechrau deall her newid hinsawdd heb ystyried yr holl brosesau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r newid pellgyrhaeddol hwn; boed y newidiadau sy’n digwydd i lefel y môr, yr olion o newidiadau hanesyddol yn natur yr hinsawdd a geir mewn rhewlifoedd a llenni iâ, y prosesau ffisegol sy’n digwydd yn yr atmosffêr, a’r ffyrdd anghynaladwy o drefnu economïau a chymdeithasau’r byd. Cynigia safbwynt daearyddol ddull effeithiol a synthetig, felly, o ddeall a cheisio datrys yr heriau amrywiol hyn.

Yn ail, mae galw amlwg yng Nghymru am y sgiliau penodol a feddir gan ddaearyddwyr, ac yn enwedig daearyddwyr sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog. Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y Gymru gyfoes yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, deddf sy’n gorfodi pob corff cyhoeddus yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol, Parciau Cenedlaethol, Byrddau Iechyd ac ati – i hyrwyddo llesiant a datblygiad cynaliadwy yn yr holl benderfyniadau a wneir ganddynt. Nodir saith nod llesiant fel rhan o’r Ddeddf – sef creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru a chanddi ddiwylliant bywiog lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu – gyda’r bwriad o gyrraedd y nodau hyn erbyn 2050. Yr hyn sy’n nodweddiadol i mi yw’r ffaith fod safbwynt daearyddol yn gwbl greiddiol i’r holl nodau hyn, yn enwedig wrth ystyried y rhyngberthnasau posib sy’n bodoli rhyngddynt. Ac, o gofio’r pwyslais ar y nod o greu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, dena’r Ddeddf ein sylw at yr angen i sicrhau bod gan y dynesiad daearyddol hwn bwyslais ar y Gymraeg ac ar rôl daearyddwyr dwyieithog yn hyrwyddo holl nodau’r Ddeddf.

Yn olaf, credaf ei bod yn gwbl addas i gyhoeddi’r rhifyn rhithiol hwn eleni gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant Daearyddiaeth fel pwnc yng Nghymru. Ganrif yn ôl y crëwyd Cadair Daearyddiaeth Gregynog yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar sail rhodd hael iawn gan deulu Davies Llandinam a Gregynog. Penodwyd yr Athro Herbert John Fleure i’r gadair honno a dyna gychwyn ffurfiol ar Ddaearyddiaeth fel pwnc prifysgol yng Nghymru. Tyfodd yr Adran Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth yn adran fwyaf blaenllaw Prydain erbyn yr 1950au a’r 1960au o dan arweinyddiaeth yr Athro Emrys Bowen, a sbardunodd y datblygiad hwn ffurfiant adrannau Daearyddiaeth eraill yn Abertawe, Bangor a Chaerdydd maes o law. Ac wrth gwrs, deall daearyddiaeth Cymru fel gwlad ac, o’i ddeall, creu dulliau ymarferol o’i wella, oedd rhai o brif amcanion yr holl adrannau hyn o’r cychwyn cyntaf. Mae’r gwaith hwn yn parhau hyd heddiw yng nghyd-destun prosiectau fel: CHERISH, sy’n ceisio deall goblygiadau newid hinsawdd ar gyfer treftadaeth arfordirol Cymru; Living Wales, sy’n hyrwyddo’r defnydd o luniau lloeren fel tystiolaeth ar gyfer polisïau amgylcheddol y wlad; WISERD Cymdeithas Sifil, lle y ceisir diffinio rôl mudiadau gwirfoddol yn y Gymru gyfoes. Bu daearyddwyr yn ganolog i’r ymdrech i geisio deall Cymru ers canrif bellach a, hyd y gwelaf fi, bydd angen iddynt chwarae rôl flaenllaw yn yr ymdrechion i geisio gwneud hynny am gan mlynedd arall.

Rhydd y rhifyn rhithiol hwn gyfle i ni, felly, i ddathlu cyfraniad Daearyddiaeth a daearyddwyr i’r ymdrech o geisio llunio dealltwriaethau trylwyr a synthetig o Gymru a’r byd, gyda’r bwriad amlwg o geisio defnyddio’r dealltwriaethau hyn fel ffordd o liniaru’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r ddynoliaeth a’r amgylchedd. Diolch i gyfnodolyn Gwerddon am y cyfle i ni allu gwneud hyn ac, yn bennaf oll, i’n galluogi ni i wneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

---

Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru', Gwerddon, 3, Mai 2008, 11-35.

Hywel Meilyr Griffiths, 'Geomorffeg afonol Cymru: Heddiw, ddoe ac yfory', Gwerddon, 3, Mai 2008, 36-70.

Cerys Jones et al, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.

Arwyn Edwards et al, 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 53-78.

Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 10-23.

Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 66-77.

Paula Roberts, 'A yw peptidau bach yn ffynhonnell maeth i briddoedd a phlanhigion yr Antarctig forwrol?', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 29-47.

Nia Blackwell et al, 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau', Gwerddon, 18, Medi 2014, 55-76.

Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 9-27.

Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o’r sefyllfa bresennol a phosibiliadau’r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.