Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?


Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?
R. Gwynedd Parry

Er nad yw’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, mae elfennau o weinyddu cyfraith trosedd, sef y broses o weithredu’r gyfraith, wedi datblygu strwythurau ac agweddau Cymreig neilltuol. Gwelir hyn yng nghyswllt polisïau Llywodraeth y Cynulliad o ran atal troseddu, yn enwedig troseddu ymysg pobl ifanc, er enghraifft. Mewn ffordd, mae hunaniaeth Cymru o fewn y cyfansoddiad wedi arwain at greu rhai prosesau a pholisïau Cymreig neilltuol o ran gweinyddu cyfiawnder troseddol.

Mae’r papur hwn yn ystyried pwnc penodol sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol a’i berthynas â hunaniaeth, a hynny mewn dwy awdurdodaeth. Y cwestiwn o dan y chwyddwydr yw, a ddylid sicrhau’r hawl i alw rheithgorau dwyieithog mewn rhai achosion troseddol yng Nghymru ac yn Iwerddon. Byddaf yn dadansoddi’r berthynas rhwng gwasanaeth rheithgor fel rhwymedigaeth a braint dinasyddiaeth, a chymhwysedd siaradwyr Gwyddeleg a Chymraeg fel grŵp ieithyddol ar gyfer gwasanaeth rheithgor. Bydd y dadansoddiad hefyd yn ystyried y berthynas rhwng y syniad o wasanaeth rheithgor fel braint dinasyddiaeth a hawliau a buddiannau siaradwyr unigol o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Dangosir yma fod hwn yn bwnc sydd yn mynnu gwerthusiad amlochrog ac o gyfuniad o safbwyntiau. Mae’r papur hefyd yn ymdrin â’r gwrthwynebiad i reithgorau dwyieithog, gan ystyried sut y gall caniatáu rheithgorau dwyieithog fod yn gyson â’r egwyddor o ddethol rheithgor ar hap (dyma sail y prif wrthwynebiad i reithgorau dwyieithog yng Nghymru ac Iwerddon), gan sicrhau tribiwnlys cynrychioliadol, cymwys, teg a diduedd.


Cyfeiriad:

 
  	R. Gwynedd Parry, 'Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 9-36.
   

Allweddeiriau

 
    Y Gyfraith, rheithgorau, dwyieithrwydd, Iwerddon, cyfiawnder troseddol, dinasyddiaeth.