Rhifyn 8

Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?

Mae’r erthygl hon yn astudiaeth o’r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o’r genedl gan feirniaid blaengar Umut Özkirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio’r cwestiynau hanfodol sy’n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o’r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, ‘an interaction of culutral coalescence and specific political intervention’?

Allweddeiriau

Drama, theatr genedlaethol, cenedligrwydd, Umut Özkirimli, Hans Kohn.

Cyfeirnod

Jones, A. (2011), 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, 45-55. https://doi.org/10.61257/PYDC5085 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0009-0003-8896-6095
Nôl i erthyglau