Rhifyn 5

Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r 'Ferch o'r Scerr'

Mae llawysgrifau Iolo Morganwg (1747-1826), yn ogystal â’i gasgliad o ganeuon gwerin brodorol, yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar gyfnod pwysig yn hanes diwylliant Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ffocws yr astudiaeth hon yw’r caneuon serch a geir yn ei gasgliad, ynghyd â’r cyd-destun a’r cefndir cymdeithasol ehangach sy’n sail i’r caneuon gwerin. Gellir olrhain y traddodiad hwn i feirdd yr uchelwyr ac, yn arbennig, i oes Dafydd ap Gwilym. Hefyd, trafodir un dôn werin benodol yn fanwl, ‘Y Ferch o’r Scerr’. Mae’r stori serch, y dôn werin a’r geiriau sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ‘Ferch o’r Scerr’ i gyd yn dra hysbys mewn sawl cylch, fodd bynnag, mae’r dôn werin a recordiwyd gan Iolo yn gwbl anhysbys.

Allweddeiriau

Iolo Morgannwg, cerddoriaeth, canu gwerin, y Ferch o'r Scerr, caneuon serch.

Cyfeirnod

Salisbury, L. (2010), 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r "Ferch o'r Scerr"', Gwerddon, 5, 53-80. https://doi.org/10.61257/KVRN9454 

Nôl i erthyglau