Rhifyn 4

Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama

Yn yr erthygl hon, mae Myfanwy Miles Jones yn dadansoddi portread Büchner o seicosis y cymeriad canolog, sy’n datblygu, yng ngoleuni damcaniaeth seiciatrig ddirfodol R. D. Laing. Mae arsylwi ar natur gynyddol dramateiddiad Büchner o ddyfnder a chymhlethdod y meddwl dynol, yn ei dro, yn datgelu cyfyngiadau ffurfiol drama yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan osod Woyczeck yng nghyd-destun dadansoddiad ffurfiol Szondi o ddrama fodern, mae’r erthygl yn dadlau bod ymdriniaeth Büchner â gwallgofrwydd yn bwrw goleuni newydd ar ddatblygiad ffurfiol drama fodernaidd ac yn dadlau bod y ffaith bod y ddrama yn anorffenedig yn ganlyniad anorfod y prosiect ei hun, o gofio er mwyn datrys y sefyllfa ddramatig yn ffurfiol, fod angen i amodau fodoli nad oeddent wedi dod i fodolaeth bryd hynny.

Allweddeiriau

Drama, Büchner, Szondi, moderniaeth.

Cyfeirnod

Jones, M. (2009), 'Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama', Gwerddon, 4, 24-35. https://doi.org/10.61257/GGBI3535 

Nôl i erthyglau