Rhifyn 4

Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?

Mae’r papur hwn yn cynnig dadansoddiad newydd o nifer o agweddau ar Y Wladfa ym Mhatagonia, drwy gyflwyno’r syniad o fod ‘ar y trothwy’ i’r drafodaeth, fel y’i dehonglwyd gan ddamcaniaeth ôl-wladychol. Ar ôl rhoi rhywfaint o gefndir hanesyddol y wladfa, sy’n rhoi ystyriaeth lawn i safbwynt yr Archentwyr, rydym yn mynd ati i archwilio nodwedd ddeuoliaeth amlwg yr arloeswyr o Gymru yn Chubut yn eu safle yn wladychwyr i bob pwrpas ac wedi’u gwladychu. Mae’r ymwybyddiaeth ddwbl y gellir ei holrhain yn ôl i ddechreuad y Fenter Fawr yn cael ei hastudio mewn cyd-destun cyffredinol a chan gyfeirio’n benodol at y berthynas gymhleth a ddatblygodd rhwng y mewnfudwyr o Gymru a phobl wreiddiol Patagonia.

Allweddeiriau

Y Wladfa, Patagonia, gwladychu, trefedigaethu.

Cyfeirnod

Lublin, G. (2009), 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?', Gwerddon, 4, 8-23. https://doi.org/10.61257/NBQR8038 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-7849-3664
Nôl i erthyglau