Rhifyn 33

Cronni Plasma o Bositronau

Cyflwynir adolygiad o'r broses o gronni plasma o bositronau (gwrthelectronau).  Disgrifir ffynonellau positronau a'r technegau a ddefnyddir i'w cymedroli, eu cronni a'u nodweddu, gydag enghreifftiau o'r data a gesglir gan ddefnyddio llinell baladr positronau Prifysgol Abertawe. Rhoddir cyfiawnhad dros astudio gwrthfater er mwyn egluro cyfansoddiad y bydysawd, yn ogystal ag ychydig o gyd-destun hanesyddol. Sonnir hefyd am y defnydd o bositronau y tu hwnt i ymchwil ffiseg sylfaenol.

Allweddeiriau

Ffiseg, gwrthfater, positron, cronni, plasma, anniwtral.

Cyfeirnod

Evans, H., a Isaac, A. (2021), ‘Cronni Plasma o Bositronau’, Gwerddon, 33, 55–67. https://doi.org/10.61257/YOAN1743 

Nôl i erthyglau