Rhifyn 32

Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au

Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.

Allweddeiriau

Kate Roberts, Saunders Lewis, Peadar O’Donnell, W. J. Gruffydd, realaeth, ffuglen, nofel, Y Llenor, Traed mewn Cyffion, Islanders.

Cyfeirnod

Hunter, J. (2021), ‘Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au’, Gwerddon, 32, 57–69. https://doi.org/10.61257/YSVL4405 

Nôl i erthyglau