Rhifyn 32

Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer y Dyfodol

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Allweddeiriau

ADCG, agweddau, athrawon, cynorthwywyr addysgu, heriau, argymhellion i’r dyfodol.

Cyfeirnod

Greenway, Ch., a Edwards, A. (2021), 'Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer y Dyfodol, Gwerddon, 32, 7–25. https://doi.org/10.61257/JZMS8099 

Nôl i erthyglau