Rhifyn 31

Egni adnewyddadwy: cyfle i ffermwyr arallgyfeirio mewn amgylchedd busnes heriol?

Mae busnesau fferm yn wynebu heriau cynyddol o ran sefydlogrwydd economaidd a dulliau cynhyrchu traddodiadol, felly mae’r erthygl hon yn ystyried rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy i gynnal busnesau o’r fath, wrth ystyried y cyfoeth o adnoddau naturiol yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn defnyddio dulliau cymysg er mwyn cynnal ymchwiliad manwl i rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth gefnogi busnesau amaeth yng Nghymru. Cyfraniad damcaniaethol yr erthygl hon yw segmentiad o ffermwyr trwy ddefnyddio dadansoddiad clwstwr sy’n gwahaniaethu rhwng agweddau gwahanol at incwm y tu allan i’r fferm a mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy. Gall yr ymchwil hefyd gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau i hwyluso’r cynnydd mewn ynni adnewyddadwy.

Allweddeiriau

Economi werdd, amaethyddiaeth, mentergarwch, ynni adnewyddadwy, Cymru.

Cyfeirnod

Bowen, R. a Morris, W. (2020), ‘Egni adnewyddadwy: cyfle i ffermwyr arallgyfeirio mewn amgylchedd busnes heriol?’, Gwerddon, 31, 112–133. https://doi.org/10.61257/UQUT6374 

Nôl i erthyglau