Rhifyn 31

Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg Bellach

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhesymau dros y nifer bychan o ddysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector Addysg Bellach, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr galwedigaethol. Cynigia argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach ac ar grwpiau ffocws â disgyblion Blwyddyn 11, mewn pedair ardal ar draws Cymru. Canfuwyd bod ffactorau economaidd, diwylliannol ac addysgol yn dylanwadu ar ddewisiadau dysgwyr. Dadleuir dros gynnig rhaglen ymwybyddiaeth iaith er mwyn ehangu disgwrs y Gymraeg fel offeryn cyflogadwyedd, a disgwrs manteision dwyieithrwydd i gynnwys manteision cymdeithasol.

Allweddeiriau

Addysg Bellach, Cymraeg, dwyieithrwydd, galwedigaethol, polisi iaith addysg.

Cyfeirnod

Davies, L. (2020), ‘Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg Bellach’, Gwerddon, 31, 59–82. https://doi.org/10.61257/OJHV1877 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-8787-6333
Nôl i erthyglau