Rhifyn 30

Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithiau Cottle, Bourdieu a Berne

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ wedi tyfu’n sylweddol fel is-ddisgyblaeth. Yn sgil hyn, mae’r drafodaeth arferol ar y ddynameg rhwng technoleg, economi, ffurfiau diwylliannol, creadigrwydd a gyrfaoedd proffesiynol wedi eu trawsnewid, gan herio hen begynau disgyrsiol economi gwleidyddol ac astudiaethau diwylliannol. Er hynny, mae gogwydd cyfoes i’r datblygiadau hyn, sy’n aml yn anwybyddu hanes y cyfryngau. Mae’r erthygl hon yn ceisio defnyddio agwedd ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ (wrth ddefnyddio fframweithiau cysyniadol Simon Cottle, Pierre Bourdieu ac Eric Berne) er mwyn olrhain hanes un o brif gwmnïau teledu Cymru, Teliesyn. 

Allweddeiriau

Teliesyn, cynhyrchu cyfryngau, Bourdieu, Berne, hanes.

Cyfeirnod

Sills-Jones, D. (2020), ‘Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithiau Cottle, Bourdieu a Berne’, Gwerddon, 30, 68–83. https://doi.org/10.61257/JDWP6875 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-8611-7709
Nôl i erthyglau