Rhifyn 30

Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai

Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason. 

Allweddeiriau

Cenedligrwydd, cyfranogi, De-ddwyrain Asia, malurion, trawsffurfiannol.

Cyfeirnod

Jones, A. (2020), 'Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai', Gwerddon, 30, 6-22. https://doi.org/10.61257/HECJ3730 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0009-0003-8896-6095
Nôl i erthyglau