Rhifyn 3

Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy

Dros y chwarter canrif diwethaf, mae tai wedi mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i’r mwyafrif helaeth o bobl. Mae’r erthygl hon yn ceisio mynd i’r afael â’r hyn sydd wedi achosi’r sefyllfa hon, a’i heffeithiau ar yr unigolyn ac ar y gymuned. Hefyd, bydd yn ystyried sut y mae tai anfforddiadwy a diffyg cyfleoedd tai ar gyfer pobl leol yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Yna, bydd yr erthygl yn ystyried y mecanweithiau a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Whitehall i ddatrys y problemau cydberthynol, sef tai anfforddiadwy a’r ffaith bod pobl leol yn methu â fforddio prynu tai yn eu hardal leol, ac i ba raddau y mae’r datrysiadau hyn yn cynnig atebion i’r dilema hwn sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. I orffen, cynigir awgrymiadau ynghylch sut i wella’r fframweithiau presennol, yn ogystal â dulliau mwy radical i sicrhau nad yw tai yn mynd yn foethusbeth.

Allweddeiriau

Tai fforddiadwy, iaith yr aelwyd, polisi cymdeithasol.

Cyfeirnod

Huws, C. (2008), 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy', Gwerddon, 3, 71-93. https://doi.org/10.61257/FFCM8733 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-9776-6405
Nôl i erthyglau